Y Pwyllgor Cyllid

 

Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

 

 

 

Dyddiad:

Dydd Mercher, 20 Chwefror 2013

 

 

 

Amser:

08:50 - 12:13

 

 

 

Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://www.senedd.tv/archiveplayer.jsf?v=en_300000_20_02_2013&t=0&l=en

 

 

Cofnodion Cryno:

 

 

 

Aelodau’r Cynulliad:

 

Jocelyn Davies (Cadeirydd)

Peter Black

Christine Chapman

Paul Davies

Mike Hedges

Ann Jones

Julie Morgan

Ieuan Wyn Jones

 

 

 

 

 

Tystion:

 

Christopher Chapman, CLLC

Jonathan Fearn, CLAW/ACES Property and Estates Group

Neil Davies, NHS Shared Services Partnership

Phil Fiander, Director of Programmes, Welsh Council for Voluntary Action

Matthew Brown, Communities Investment Fund Manager, WCVA

Peter Williams, WCVA

Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ

Jo Salway, Llywodraeth Cymru

Jeff Andrews, Cynghorydd Polisi Arbenigol, Llywodraeth Cymru

Matthew Denham-Jones, Llywodraeth Cymru

 

 

 

 

 

Staff y Pwyllgor:

 

Gareth Price (Clerc)

Daniel Collier (Dirprwy Glerc)

Martin Jennings (Ymchwilydd)

Eleanor Roy (Ymchwilydd)

Kerry Dearden (Ymchwilydd)

 

 

 

<AI1>

1.  Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau ac aelodau’r cyhoedd i’r cyfarfod.

 

</AI1>

<AI2>

2.  Rheoli asedau - Tystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Christopher Chapman, Rheolwr Rhaglenni – Effeithlonrwydd a Chaffael, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; a Jonathan Fearn, Cadeirydd Grŵp Eiddo ac Ystadau CLAW/ACES, i’r cyfarfod.

 

2.2 Bu’r Aelodau’n holi’r tystion.

 

2.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gan ofyn cwestiynau nas gofynnwyd yn ystod trafodion y Pwyllgor.

 

 

</AI2>

<AI3>

3.  Rheoli asedau - Tystiolaeth gan Gydwasanaethau GIG Cymru

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Neil Davies, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Gwasanaethau Cyfleusterau, Cydwasanaethau GIG Cymru, i’r cyfarfod.

 

3.2 Bu’r Aelodau’n holi’r tyst.

 

Camau i’w cymryd:

 

Cytunodd Cydwasanaethau GIG Cymru i ddarparu:

 

·         Astudiaethau achos sy’n dangos sut y mae GIG Cymru wedi cydweithio â chyrff cyhoeddus eraill ym maes rheoli asedau er mwyn gwella’r broses o ddarparu gwasanaethau.

·         Rhestr o enghreifftiau sy’n dangos lle mae cyrff sydd ynghlwm â GIG Cymru wedi defnyddio’r Protocol Trosglwyddo Tir yn effeithiol.

 

</AI3>

<AI4>

4.  Rheoli asedau - Tystiolaeth gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

4.1 Croesawodd y Cadeirydd Phil Fiander, Cyfarwyddwr Menter ac Adfywio, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru; Mathew Brown, Rheolwr y Gronfa Fuddsoddi Gymunedol; a Peter Williams, Cyfarwyddwr Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru.

 

4.2 Bu’r Pwyllgor yn holi’r tystion.

 

Cam i’w gymryd:

 

Cytunodd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i ddarparu:

 

·         Nodyn yn amlinellu enghreifftiau o sefydliadu yn y sector gwirfoddol sy’n rheoli asedau fel adnoddau, a hynny er mwyn gwella’r broses o ddarparu gwasanaethau, ac sy’n gwneud hyn fel rhan o’u strategaeth gyffredinol.

 

 

</AI4>

<AI5>

5.  Cyllideb atodol Llywodraeth Cymru 2013-2014 - Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru

5.1 Croesawodd y Cadeirydd Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ; Jo Salway, Pennaeth Cyllidebu Strategol; Matthew Denham-Jones, Pennaeth Rheoli a Chofnodi Cyllidebau; a Jeff Andrews, Cynghorydd Polisi Arbenigol.

 

5.2 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar waith y Gweinidog mewn perthynas â Chyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14.

 

Camau i’w cymryd:

 

Cytunodd y Gweinidog i roi:

 

 

 

</AI5>

<AI6>

6.  Papurau i'w nodi

6.1 Nododd y Pwyllgor y papur ar ymweliadau buddsoddi i arbed; yr ohebiaeth a gafwyd gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i’r camau gweithredu a ddeilliodd o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Ionawr; a chofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

</AI6>

<AI7>

7.  Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

 

</AI7>

<AI8>

8.  Goblygiadau ariannol y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol

8.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod goblygiadau ariannol y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol, a chytunodd yr Aelodau i wahodd y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol i un o gyfarfodydd nesaf y Pwyllgor, er mwyn gallu craffu ar ei gwaith.

 

</AI8>

<AI9>

9.  Trafod tystiolaeth ar Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2013-2014

9.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a gafwyd ar gyllideb atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14, a rhoddwyd cyfarwyddyd i’r Clerc baratoi adroddiad drafft ar ran y Pwyllgor.

 

</AI9>

<AI10>

10.      Ystyried y dystiolaeth ar Reoli Asedau

10.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a gafwyd ar reoli asedau, a thystion posibl ar gyfer y cyfarfodydd sydd i ddod.

 

10.2 Cytunodd y Pwyllgor i baratoi arolwg ar gyfer prif weithredwyr cyrff cyhoeddus er mwyn cael rhagor o dystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad.

 

</AI10>

<AI11>

Trawsgrifiad

Trawsgrifiad o'r cyfarfod.

</AI11>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</ TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</ COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>